Luke 10:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r vn modd y Leuit, gwedy ddyvot yn agos at y lle, aeth ac a edrychawdd arnavv, ac aeth heibiaw or tu arall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr un ffunud Lefiad, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, aeth o’r tu arall heibio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr un modd Lefiad hefyd a ddaeth i’r fan, a’i weled, a mynd o’r tu arall heibio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i'r fan, a'i weled ef, a aeth o'r tu arall heibio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi'r ffordd a mynd yn ei flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr un modd daeth Lefiad hefyd at y man; gwelodd ef, ac aeth heibio o'r ochr arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn gyffelyb Lefiad hefyd, wedi dyfod i waered i'r lle, a gweled, a aeth heibio o'r tu arall.