Luke 10:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yna ryw Samarit, wrth ymddaith, a ddeuth yn agos attaw, a’ phan ei canvu, e dosturiawdd wrthaw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac rhyw Shamariad, wrth ymdaith, a ddaeth cyferbyn ag ef; ac wedi ei weled ef, tosturiodd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond rhyw Samariad ar ei daith a ddaeth lle’r oedd, a phan welodd ef fe dosturiodd wrtho,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna dyma Samariad yn dod i'r fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd e'r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond daeth teithiwr o Samariad ato; pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond rhyw Samariad, yn ymdeithio, a ddaeth i waered ato ef; a phan y gwelodd, efe a dosturiodd,