Luke 10:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac aeth attaw, ac a rwymoð ei archollion, ac a dywalldawdd ynthwynt oleo a’ gwin, ac ei dodawdd ar ei yscrupl ehun, ac ei duc y letuy‐cyffredin, ac ei ymgleddawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi myned atto, rhwymodd ei archollion ef, gan dywallt arnynt olew a gwin; ac wedi ei osod ef ar ei anifail ei hun, dug ef i’r lletty, ac amgeleddodd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac aeth ato a rhwymo’i archollion a thywallt arnynt olew a gwin; a gosododd ef ar ei anifail ei hun, a’i ddwyn i westy, a chymryd gofal ohono.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a aeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i dug ef i'r llety, ac a'i hamgeleddodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a'u trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn a'i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth ato a rhwymo ei glwyfau, gan arllwys olew a gwin arnynt; gosododd ef ar ei anifail ei hun, a'i arwain i lety, a gofalu amdano.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a ddaeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan barhâu i dywallt arnynt olew a gwin, ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i harweiniodd ef i'r Gwest‐dy, ac a gymmerodd ofal am dano.