Luke 10:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thranoeth wrth vyned ymaith, ef a dynnawdd allan ddwy geiniawc, ac ei rhoddes ir lletuywr, ac a ddyvot wrthaw, Cymer ei gur ef, a ’pha beth pynac a draulych angwanec, pan ddelwyf drachefyn mi ei talaf y‐ty.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrannoeth, wedi tynu allan ddwy ddenar, rhoddes hwynt i’r llettywr, a dywedodd, Amgeledda ef, a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, myfi wrth ddychwelyd o honof, a’ i talaf i ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrannoeth tynnodd allan ddau swllt, a rhoes hwynt i’r gwestywr, a dywedodd, ‘Cymer ofal ohono, a pha beth bynnag a wariech yn rhagor, ar fy ffordd yn ôl mi a’i talaf i ti.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a'i talaf i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. ‘Gofala amdano,’ meddai wrtho, ‘Ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i'n mynd heibio.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth tynnodd ddau ddarn arian allan a'u rhoi i'r gwesteiwr, gan ddweud, 'Gofala amdano. Os byddi wedi gwario rhywbeth dros ben, fe dalaf fi yn l iti pan ddychwelaf.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thua thranoeth, efe a dynodd allan ddwy ddenarion, ac a'u rhoddodd i berchenog y gwest‐dŷ, ac a ddywedodd, Gofala am dano, a pha beth bynag a dreuli yn ychwaneg, myfi, pan ddychwelwyf, a dalaf yn ol i ti.