Luke 10:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly pwy vn o’r tri hynn, ith tyb di, oedd gymmydawc y hwn a syrthiawdd ymplith y llatron?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pwy o’r tri hyn tybygi di fu gymmydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa un o’r tri hyn, dybi di, a fu gymydog i’r hwn a syrthiodd i blith y lladron?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy gan hynny o'r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i'r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un o'r tri fu'n gymydog i'r dyn wnaeth y lladron ymosod arno?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Prun o'r tri hyn, dybi di, fu'n gymydog i'r dyn a syrthiodd i blith lladron?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pwy o'r tri hyn, a ymddengys i ti sydd wedi bod yn gymydog i'r hwn a syrthiodd i blith ysbeilwyr?