Luke 10:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yddi yr oedd chwaer a elwit Mair, yr hon hefyt a eisteddawdd wrth draet yr Iesu, ac a glywei i breceth ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac iddi hi yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd gan eistedd wrth draed yr Arglwydd a wrandawai ar Ei ymadrodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, ac eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd, a gwrandawai ar ei ymadrodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gan Martha chwaer o'r enw Mair, ac eisteddodd hi o flaen yr Arglwydd yn gwrando ar yr hyn roedd e'n ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ganddi hi chwaer a elwid Mair; eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd a gwrando ar ei air.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac i hon yr oedd chwaer a'i henw Mair, yr hon hefyd a eisteddodd yn ymyl wrth draed yr Arglwydd, ac a wrandawodd ei air ef.