Luke 10:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na ddygwch vn god nac yscrepan, nac escidiae, ac na chyverchwch well i nep ar y ffordd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na ddygwch gôd, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac i neb ar eich ffordd na chyferchwch well.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na ddygwch bwrs, na chod, nac esgidiau, ac na chyferchwch neb ar y ffordd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch mynd â phwrs na bag teithio na sandalau gyda chi; a pheidiwch stopio i gyfarch neb ar y ffordd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch chario na phwrs na chod na sandalau, a pheidiwch chyfarch neb ar y ffordd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na ddygwch gôd, nac ysgrepan, na sandalau, ac na chyferchwch neb ar hyd y ffordd.