Luke 10:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ Martha a drallodit yn cylch am p l wasanaeth, ac a ddeuth attaw, ac a ddyuot, Arglwydd, any d oes nes gofal genyt, can im chwaer vy‐gadael vy h unan i wasanaethu? Arch yddi gan hyny, yn y chymportho vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond Martha a ddirdynid ynghylch llawer o wasanaeth; a chan sefyll gerllaw dywedodd, Arglwydd, onid gwaeth Genyt fod fy chwaer wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun i wasanaethu? Dywaid, gan hyny, wrthi am fy nghynnorthwyo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr oedd Martha yn drysu gan gymaint o weini; a safodd a dywedodd, “Arglwydd, ai difater gennyt i’m chwaer fy ngadael wrthyf, fy hun i weini? Dywed wrthi, ynteu, am estyn cymorth i mi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i'm chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd yr holl baratoadau roedd angen eu gwneud yn cymryd sylw Martha i gyd, a daeth at Iesu a gofyn iddo, “Arglwydd, dwyt ti ddim yn poeni bod fy chwaer wedi gadael i mi wneud y gwaith i gyd? Dywed wrthi am ddod i helpu!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd Martha mewn dryswch oherwydd yr holl waith gweini, a daeth ato a dweud, "Arglwydd, a wyt ti heb hidio dim fod fy chwaer wedi fy ngadael i weini ar fy mhen fy hun? Dywed wrthi, felly, am fy nghynorthwyo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Martha a drallodwyd ynghylch gweini llawer arno: a hi gan sefyll i fyny a ddywedodd, Arglwydd, Ai nid wyt ti yn gofalu fod fy chwaer wedi fy ngadael i yn hollol wrthyf fy hun i wasanaethu? Gan hyny, dywed wrthi, am gymmeryd ei rhan gyd â mi.