Luke 10:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vn‐peth ’sy anghenreidiol, a’ Mair a dd etholes y rhan dda, yr hyn ny ddugir odd y arnei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond wrth un peth y mae rhaid; canys Mair, y rhan dda a ddewisodd hi, yr hon ni chymmerir ymaith oddi arni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid rhaid ond wrth ychydig o bethau, neu un; canys Mair a ddewisodd y rhan dda, a honno nis dygir oddi arni.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr un peth sydd angenrheidiol: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond dim ond un peth sydd wir yn bwysig. Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond un peth sy'n angenrheidiol. Y mae Mair wedi dewis y rhan orau, ac nis dygir oddi arni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond am un y mae angen: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni.