Luke 10:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn tuy hwnw aro s wch yn ’oystat gan vwyta, ac yvet gyfryw bethrae a ddodant geir eich bronn: can ys teilwng ir gweithwr ei gyfloc. Na cherddwch o duy y‐duy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn y tŷ hwnw arhoswch, gan fwytta ac yfed yr hyn sydd ganddynt, canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog: na threiglwch o dŷ i dŷ.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Arhoswch yn y tŷ hwnnw, gan fwyta ac yfed a fo ganddynt, canys teilwng i’r gweithiwr ei gyflog. Na symudwch o dŷ i dŷ.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwyta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i'r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ i'r llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arhoswch yn y tu375? hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch symud o du375? i du375?.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn y tŷ hwn aroswch, gan fwyta ac yfed y pethau a roddir ganddynt. Canys teilwng y gweithiwr ei gyflog. Na symudwch o dŷ i dŷ.