Luke 11:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ darvu, val yr oeð ef yn gweddiaw mewn nep lle, pan peidiawdd, y dyvot ne bun oei ðiscipulō wrthaw, Arglwyð, dysc i ni weddiaw, megis ac y dyscawdd Ioan ei ddisipulon yntef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu, pan yr oedd mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, dywedodd rhyw un o’i ddisgyblion Wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y bu i Ioan hefyd ddysgu i’w ddisgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd, pan oedd ef mewn rhyw fan yn gweddïo, wedi iddo orffen, i un o’i ddisgyblion ddywedyd wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion yntau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o'i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i'w ddisgyblion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un diwrnod roedd Iesu'n gweddïo mewn lle arbennig. Pan oedd wedi gorffen, dyma un o'i ddisgyblion yn gofyn iddo, “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ef yn gweddo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o'i ddisgyblion wrtho, "Arglwydd, dysg i ni weddo, fel y dysgodd Ioan yntau i'w ddisgyblion ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan orphenodd, rhyw un o'r Dysgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dysg ni i weddïo, yr un modd ag y dysgodd Ioan ei Ddysgyblion.