Luke 11:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s chvvi chwi gan hyny yr ei ych ddrwc ion, a vedrwch roi rhoddion da i’ch plant, pa veint mwy y bydd i’ch Tad nefawl roddy yr Yspryt glan ir ei eu govynan yðo? Yr Euangel y trydydd Sul yn y Grawys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa fodd i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y bydd i’ch Tad nefol roi’r Yspryd Glân i’r rhai a ofynant Iddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd y Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofyn iddo?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Ysbryd Glân i'r rhai a ofynno ganddo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly os ydych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'r Tad nefol yn siŵr o roi'r Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn iddo!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Gln i'r rhai sy'n gofyn ganddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os chwi gan hyny, y rhai ydych ddrwg o'r dechreu, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tâd o'r Nef yr Yspryd Glân i'r rhai a ofynant ganddo?