Luke 11:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Yno y bwriawdd ef gythrael allan yr hwn oeð yn vut: a gwedy ir cythrael vyn’d allan yr ymadroddawdd y mudan, ac y rhyueddawdd y popul oedd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd Efe yn bwrw allan gythraul mud; a bu, a’r cythraul wedi myned allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y torfeydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd yn bwrw allan gythraul, a oedd yn fud; ac wedi i’r cythraul fyned allan, llefarodd y mudan. A rhyfeddodd y tyrfaoedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r bobloedd a ryfeddasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n bwrw cythraul allan o ddyn oedd yn fud. Pan aeth y cythraul allan ohono dyma'r dyn yn dechrau siarad, ac roedd y bobl yno wedi eu syfrdanu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn bwrw allan gythraul, a hwnnw'n un mud. Ac wedi i'r cythraul fynd allan, llefarodd y mudan. Synnodd y tyrfaoedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul mud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r torfeydd a ryfeddasant.