Luke 11:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef gan wybot ei meddiliae, a ddyvot wrthynt, Pop teyrnas ’ohanedic oei mewn ehun, a diffaithir, a’ thuy rhanedic yny erbyn ehun a gwympa.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe, gan wybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yntau, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, “Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir, a thŷ yn erbyn tŷ a syrth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, ac meddai wrthyn nhw: “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd teulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn chwalu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau hwy, ac meddai wrthynt, "Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, a'r tai yn cwympo ar ben ei gilydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob Teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun sydd anghyfanedd; a phob tŷ yn erbyn tŷ sydd yn syrthio: