Luke 11:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ad yw Satā yn rhanedic yn y erbyn ehun, pa wedd y saif y deyrnas ef? can y chwi ddywedyt vy‐bot yn bwrw allan gythraeliait trwy Beelzebub.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth; ac os Satan hefyd a ymrannodd yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas, o herwydd dywedyd o honoch mai trwy Beelzebub yr wyf Fi yn bwrw allan gythreuliaid?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os Satan yntau a ymrannodd yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas? — gan eich bod yn dywedyd mai trwy Feelsebwl yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy Satan yn ymladd ei hun, a'i deyrnas wedi ei rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll? Dw i'n gofyn y cwestiwn am eich bod chi'n honni mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os yw Satan yntau wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, sut y saif ei deyrnas? gan eich bod chwi'n dweud mai trwy Beelsebwl yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac os ydyw Satan hefyd wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei Deyrnas ef? Canys chwi a ddywedwch mai trwy Beelzebwl, yr wyf fi yn bwrw allan y cythreuliaid.