Luke 11:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’d yw vi yn bwrw allā gythraulieit trwy Veelzebub trwy bwy y mae eich plāt chwi yn eu bwrw allan? Am hynny y byddant wy yn varnwyr arnoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os Myfi trwy Beelzebub yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid, trwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os trwy Feelsebwl y bwriaf i’r cythreuliaid allan, trwy bwy y bwrw eich meibion chwi hwynt allan? Am hynny hwy a fydd farnwyr arnoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os wyf fi trwy Beelzebwl yn bwrw allan y cythreuliaid, trwy bwy y mae eich Meibion chwi yn eu bwrw allan? O herwydd hyn, hwynt‐hwy fyddant eich barnwyr chwi.