Luke 11:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pan ddel arnaw a vo cadarnach nac ef, a’ ei ’orchfygy, ef ddwc y arnaw ei oll arvae yn yr ei ydd oedd ef yn ymddiriet, ac a ran yr yspail.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond pan fo un cryfach nag ef, wedi dyfod arno, yn ei orchfygu ef, ei lwyr-arfogaeth yn yr hon yr ymddiriedai, a ddwg efe oddi arno, a’i yspeiliau a ran efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond pan ddêl ei gryfach yn ei erbyn a’i orchfygu, fe gymer ymaith ei arfogaeth, yr ymddiriedai ynddi, a rhannu ei arfau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan mae rhywun cryfach yn ymosod arno a'i drechu, mae'n cymryd ei arfau oddi ar y dyn, ac yn dwyn ei eiddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond pan fydd un cryfach nag ef yn ymosod arno ac yn ei drechu, bydd hwnnw'n cymryd yr arfwisg yr oedd ef wedi ymddiried ynddi, ac yn rhannu'r ysbail.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth, yn yr hon yr oedd wedi ymddiried, ac y mae yn rhanu ei anrheithion ef.