Luke 11:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan el yr yspryt aflan allan o ddyn, e rotia rhyt lleodd sychion, gan gaisiaw llonyddwch: a’ pryd na’s caffo, ef a ddywait, Mi ymchwelaf im tuy or lle y daethum allan,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan fo’r yspryd aflan wedi myned allan o’r dyn, myned trwy leoedd di-ddwfr y mae, gan geisio gorphwysdra; a chan na chaffo, y dywaid, Dychwelaf i fy nhŷ o’r hwn y daethum allan;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan êl ysbryd aflan allan o ddyn, fe grwydra drwy leoedd sychion gan geisio egwyl, a chan nad yw’n ei chael, fe ddywed, ‘Dychwelaf i’m tŷ y deuthum allan ohono’;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn edrych am le i orffwys. Ond yna pan mae'n methu dod o hyd i rywle, mae'n meddwl, ‘Dw i am fynd yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ond heb ei gael. Yna y mae'n dweud, 'Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan yr êl yr yspryd aflan allan o'r dyn, y mae efe yn myned trwy leoedd diddwfr, gan geisio gorphwysdra; a phan nad yw yn ei gael, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r hwn y daethum allan.