Luke 11:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aa ef, ac a gymer gyd ag ef saith yspryt eraill gwaeth nag ef ehun: ac y aant y mewn, ac a drigant ynow, ac velly y byð diweddiat y dyn hwn yn waeth no ei ddechraeat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna myned y mae ac yn cymmeryd atto saith eraill o ysprydion gwaeth nag ef ei hun, ac wedi myned i mewn, trigant yno; a chyflwr olaf y dyn hwnw sydd waeth na’r cyntaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna yr â, ac y cymer ysbrydion eraill gwaeth nag ef ei hun, saith ohonynt, ac ânt i mewn a chartrefant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr â efe, ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na'i ddechreuad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e! Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna y mae'n mynd ac yn cymryd ato saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn mynd i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y mae yn myned, ac yn cymmeryd ato saith yspryd arall, gwaeth nag ef ei hun: ac y maent hwy, wedi myned i mewn, yn trigo yno. Ac y mae cyflwr diweddaf y dyn hwnw yn waeth na'r cyntaf.