Luke 11:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu ac ef yn dywedyt y pethae hyn, rryw wreic o’r tyrva a gyvodes ei lleverydd, ac a ddyvot wrtro, Gwyn ei vyt y groth ath arweddawdd, a’r bronnae a sugnaist.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu, wrth ddywedyd o Hono y pethau hyn, ei llais a gododd rhyw wraig, o’r dyrfa, a dywedodd Wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug Di, a’r bronnau a sugnaist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A darfu, pan oedd ef yn dywedyd y pethau hyn, i ryw wraig o’r dyrfa godi ei llais, a dywedyd wrtho, “Gwyn ei byd y groth a’th ddug, a’r bronnau a sugnaist.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Iesu wrthi'n dweud y pethau yma, dyma ryw wraig yn y dyrfa yn gweiddi, “Mae dy fam, wnaeth dy gario di'n ei chroth a'th fagu ar ei bronnau, wedi ei bendithio'n fawr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth iddo ddweud hyn, cododd gwraig o'r dyrfa ei llais ac meddai wrtho, "Gwyn eu byd y groth a'th gariodd di a'r bronnau a sugnaist."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, pan yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y grôth a'th ddug di, a'r bronau a sugnaist.