Luke 11:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ynt ef a ddyvot, Ie ychre gwyn ei byt yr ei a glywant ’air Duw, ac ei catwant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd, Yn hytrach, gwyn fyd y rhai sydd yn clywed gair Duw ac yn ei gadw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, “Ie, ond yn hytrach gwyn eu byd y rhai a wrendy air Duw, ac a’i ceidw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Mae'r rhai sy'n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi eu bendithio'n fwy!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Nage," meddai ef, "gwyn eu byd y rhai sy'n clywed gair Duw ac yn ei gadw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a ddywedodd, Felly, yn wir, gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando Gair Duw, ac yn ei gadw.