Luke 11:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy ir popul oedd ymdyrru yn‐cyt, y dechreuawdd ef ddywedyt, Cenedl ysceler yw hon: ceisio sygn y mae nt, ac ny ’s rhoir vn yddy nt, any d sign Ionas y Prophwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r torfeydd yn ymdyrru ynghyd, dechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon, cenhedlaeth ddrwg yw: arwydd a gais hi, ac arwydd ni roddir iddi, oddieithr arwydd Ionah.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r tyrfaoedd yn ymdyrru ato, dechreuodd ddywedyd, “Cenhedlaeth ddrwg yw’r genhedlaeth hon; y mae’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi onid arwydd Ionas.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i'r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y proffwyd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i'r dyrfa fynd yn fwy, meddai Iesu, “Mae'r genhedlaeth yma yn ddrwg. Mae pobl yn gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i. Ond yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth i'r tyrfaoedd gynyddu, dechreuodd lefaru: "Y mae'r genhedlaeth hon yn genhedlaeth ddrygionus; y mae'n ceisio arwydd. Eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd y torfeydd yn ymdyru ynghyd ato ef, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y Genedlaeth hon, cenedlaeth ddrwg ydyw: y mae yn ceisio arwydd: ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonah.