Luke 11:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys mal y bu Ionas yn sign ir Niniveit, velly y bydd Map y dyn i’r genetl eth hon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys fel y bu Ionah yn arwydd i’r Ninefiaid, felly y bydd Mab y Dyn hefyd i’r genhedlaeth hon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys fel y bu Ionas yn arwydd i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn yntau i’r genhedlaeth hon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel y bu Jonas yn arwydd i'r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i'r genhedlaeth hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel roedd beth ddigwyddodd i Jona yn arwydd i bobl Ninefe, bydd yr hyn fydd yn digwydd i mi, Mab y Dyn, yn arwydd i bobl y genhedlaeth yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fel y bu Jona yn arwydd i bobl Ninefe, felly y bydd Mab y Dyn yntau i'r genhedlaeth hon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys fel y bu Jonah yn arwydd i'r Ninifëaid; felly y bydd Mab y Dyn hefyd i'r genedlaeth hon.