Luke 11:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Brēhines y Deheu a gyvyt ym‐ b arn, y gyd a gwyr y genetl eth hō, ac y barn wy yn euoc: can ys hi ddaeth o dervynae eithav y ðayar y glywet doethynep Selef, a’ nycha vn mwy na Selef y sy yma n.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt, canys daeth o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Shalomon, ac wele, mwy na Shalomon yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon ac a’u condemnia; canys hi ddaeth o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd Brenhines Seba yn condemnio pobl y genhedlaeth yma ar ddydd y farn, achos roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda phobl y genhedlaeth hon, ac yn eu condemnio hwy; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Brenines y Deheu a gyfyd yn y Farn gyd â gwŷr y genedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; canys hi a ddaeth o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele, fwy na Solomon yma.