Luke 11:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwyr Niniue a godant ym‐barn y gyd a’r genetl eth hon, ac y barn hi‐yn‐euoc: canys wy a gymersōt etiveirwch wrth preceth iat Ionas: a’ nycha vn mwy na Ionas y sy yma n.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwŷr Ninefe a godant i fynu yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, a chondemniant hi, canys edifarhasant wrth bregeth Ionah, ac wele, mwy nag Ionah yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwŷr o Ninefeaid a saif i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia; canys edifarhasant wrth bregeth Ionas, ac wele fwy nag Ionas yma.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon, ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyr o Ninifëaid a gyfodant i fyny yn y Farn gyd â'r genedlaeth hon, ac a'i condemniant hi: canys hwy a edifarhasant wrth bregeth Jonah; ac wele fwy na Jonah yma.