Luke 11:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny d enyn neb ganwyll a’i dodi yn‐cudd, nac y dan vail: eithyr ar ganwyllbren, val y gallo yr ei a ddel y mywn, weled y llewych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid yw neb wedi goleu llusern, yn ei gosod mewn cel-gellfa, na than lestr, eithr ar safle’r llusern fel y bo i’r rhai sy’n dyfod i mewn weled y goleuni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni oleua neb gannwyll a’i dodi mewn seler nac o dan gelwrn ond ar y canhwyllbren, er mwyn i’r rhai a ddêl i mewn weled y golau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo'r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Does neb yn goleuo lamp ac wedyn yn ei gosod yn rhywle o'r golwg neu o dan fowlen. Mae lamp yn cael ei gosod mewn lle amlwg, fel bod pawb sy'n dod i mewn yn cael golau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei rhoi mewn man cudd neu dan lestr, ond ar ganhwyllbren, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni wna neb, wedi goleuo lamp, ei gosod mewn cudd‐gell, neu o dan y mesur‐lestr, ond ar y daliadyr, fel y gwelo y rhai a ddelo i mewn y goleuni.