Luke 11:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Canwyll y corph yw’r llygat: can hyny pan vo dy lygat yn sym p l, yno y mae dy oll corph yn olae: eithr pan vo dy lygat yn ðrwc, yno y bydd dy corph yn dywyl’.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llusern dy gorph yw dy lygad. Pan fo dy lygad yn syml, dy holl gorph hefyd fydd oleu; ond pan drwg yw, dy gorph hefyd fydd dywyll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cannwyll y corff yw dy lygad; pan fo dy lygad yn iach, dy holl gorff sydd yn olau; Ond os bydd yn ddrwg, dy gorff a fydd yn dywyll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cannwyll y corff yw'r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dy lygad di ydy lamp y corff. Mae llygad iach, sef bod yn hael, yn gwneud dy gorff yn olau trwyddo. Ond llygad sâl ydy bod yn hunanol, a bydd dy gorff yn dywyll trwyddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dy lygad yw cannwyll dy gorff. Pan fydd dy lygad yn iach, y mae dy gorff hefyd yn llawn goleuni; ond pan fydd yn sl, y mae dy gorff hefyd yn llawn tywyllwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Lamp y corff yw dy lygad. Pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd ddysglaer: ond pan fyddo yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd yn dywyllwch.