Luke 11:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth hyny a’s dy oll corph vydd golau eb iddo vn ran dywyll, yno byð e golau ol’, megis gan ith oleuaci cannwyll di a’r discleirdep.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, dy gorph oll sydd oleu, heb ynddo un rhan dywell, goleu fydd y cwbl, fel pan fo’r llusern, â’i llewyrch, yn dy oleuo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, os yw dy gorff i gyd yn olau, heb un rhan yn dywyll, bydd yn olau i gyd, fel pan fo’r gannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly os ydy dy gorff yn olau trwyddo, heb dywyllwch yn unman, bydd dy fywyd i gyd yn olau fel petai lamp yn disgleirio arnat ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, os yw dy gorff yn llawn goleuni, heb unrhyw ran ohono mewn tywyllwch, bydd yn llawn goleuni, fel pan fydd cannwyll yn dy oleuo 'i llewyrch."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os dy holl gorff gan hyny sydd ddysglaer, heb fod un rhan yn dywyll, bydd yr oll yn ddysglaer, fel pan y mae y lamp yn ei dysglaerdeb llachar yn dy oleuo di.