Luke 11:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd oedd ef yn ymadrodd, yr atolygawdd ryw Pharisai yddaw giniawa y gyd ac ef: ac ef aeth y mywn, ac a eisttddawdd y vwyta.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth lefaru o Hono, gofynodd rhyw Pharishead Iddo giniawa gydag ef: ac wedi myned i mewn lled-orweddodd Efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi iddo lefaru, gofyn Pharisead iddo giniawa gydag ef; aeth i mewn ac at y bwrdd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gydag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwyta.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i Iesu orffen siarad, dyma un o'r Phariseaid yn ei wahodd i'w gartref am bryd o fwyd. Felly aeth Iesu yno ac eistedd wrth y bwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan orffennodd lefaru, gwahoddodd Pharisead ef i bryd o fwyd yn ei du375?. Aeth i mewn a chymryd ei le wrth y bwrdd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe yn llefaru, Pharisead a ofynodd iddo giniawa gyd âg ef; ac efe a aeth i mewn, ac a eisteddodd i lawr wrth y bwrdd.