Luke 11:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welawdd y Pharisai, y rhyveddawdd can nad yn gyntaf yr ymolchesei ef o vlayn ciniaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Pharishead, gan weled hyn, a ryfeddodd na fu Iddo yn gyntaf ymolchi o flaen y ciniaw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhyfeddodd y Pharisead wrth weled nad ymolchodd yn gyntaf cyn cinio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen cinio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y dyn oedd wedi ei wahodd yn synnu gweld Iesu yn eistedd wrth y bwrdd heb fynd trwy'r ddefod Iddewig o olchi ei ddwylo cyn bwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y Pharisead nad oedd wedi ymolchi yn gyntaf cyn bwyta, fe synnodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymdrochasai efe yn gyntaf cyn ciniaw.