Luke 11:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Arglwydd a ddyuot wrthaw, Yn ddiau chwchwi ’r Pharisaieit a gerthwch y tu allan ir cwpan, a’r ddescil: a’r tu mywn ywch ’sy yn llawn o drais a drigioni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Yn awr, chwi, y Pharisheaid, y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl a lanhewch, ond eich tu mewn sydd orlawn o reibusrwydd a drygioni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Yn awr yr ydych chwi’r Phariseaid yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond y tu mewn i chwi sydd lawn o ladrad a drygioni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Arglwydd Iesu yn dweud wrtho, “Dych chi'r Phariseaid yn glanhau tu allan y cwpan neu'r ddysgl, ond y tu mewn dych chi'n gwbl hunanol a drwg!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai'r Arglwydd wrtho, "Yr ydych chwi'r Phariseaid yn wir yn glanhau tu allan y cwpan a'r ddysgl, ond o'ch mewn yr ydych yn llawn anrhaith a drygioni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhâu y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl: ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.