Luke 11:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr gwae chwy chwi y Pharisaieit: can ys‐ chvvi degymwch y mynt ys a’ rut, a’ phop llyseuyn ac ewch dros varn a’ chariat Duw: y pethae hyn a ddylit ei gwnauthur, ac na vaddeuit y llaill.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr gwae chwi, y Pharisheaid, canys degymmwch y mintys a’r rhyw a phob llysieuyn, ac myned heibio yr ydych i farn a chariad Duw; y rhai hyn yr oedd raid eu gwneuthur, a pheidio a gadael y lleill heibio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gwae chwi’r Phariseaid, am eich bod yn degymu’r mintys a’r ryw a phob llysieuyn, ac yn troseddu yn erbyn barn a chariad Duw; dylid gwneuthur y naill, heb esgeuluso’r lleill.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr gwae chwi'r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu'r mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae chi'r Phariseaid! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw — hyd yn oed o'ch mintys, arianllys a'ch perlysiau eraill! Ond dych chi'n esgeuluso byw'n gyfiawn a charu Duw. Dylech wneud y pethau pwysicach yma heb ddiystyru'r pethau eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys a rhyw a phob llysieuyn, ond yn diystyru cyfiawnder a chariad Duw, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, ond heb esgeuluso'r lleill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond gwae chwi, Y Phariseaid, canys yr ydych yn talu degwm o'r mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i'r Farn a Chariad Duw: ond y pethau hyn a ddylasech eu gwneuthur, heb fyned heibio y lleill.