Luke 11:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae chvvy chwi’r Gwyr‐llē a’r Pharisaieit, hypocriteit, can ys ych bot megis monwenti a’r n’ymðangosant, a’r dynion a’ rodian arnynt, ny wyddan y vvrthynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae chwi, canys yr ydych fel y beddau anamlwg, ac y dynion sy’n rhodio arnynt ni wyddant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae chwi, am eich bod fel y beddau sydd o’r golwg, a’r dynion a gerddo drostynt ni wyddant amdanynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a'r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae chi! Dych chi fel beddau mewn cae heb ddim arwydd i ddweud fod bedd yna, a phobl yn llygru eu hunain wrth gerdded drostyn nhw heb wybod beth maen nhw'n ei wneud!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae chwi, oherwydd yr ydych fel beddau heb eu nodi, a phobl yn cerdded drostynt yn ddiarwybod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae chwi, canys yr ydych fel beddau anamlwg, a'r dynion a gerddant drostynt heb wybod hyny.