Luke 11:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr atepawdd vn o esponwyr y Ddeddyf, ac addyuot wrthaw, Y dyscawdr, can dywedyt hyn ydd wyt in gwarthay ni ni hefyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, rhyw un o’r cyfreithwyr a ddywedodd Wrtho, Athraw, wrth ddywedyd y pethau hyn, nyni hefyd a sarai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd un o’r cyfreithwyr iddo, “Athro, wrth ddywedyd y pethau hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau hefyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un o'r cyfreithwyr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Athro, rwyt ti'n ein sarhau ni hefyd wrth ddweud y fath bethau!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd un o athrawon y Gyfraith ef, "Athro, wrth ddweud hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac un o Ddysgawdwyr y Gyfraith gan ateb a ddywed wrtho, Athraw, wrth ddywedyd hyn yr wyt yn dirmygu hyd y nod nyni.