Luke 11:46 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddynot, Gwae chvvy chwi hefyt, esponwyr y Ddeddyf: can y chwi lwythao dynion a’ llwythae anhawdd‐ei‐dwyn, a’ chvvi theu ny chyfwrddwch y llwythae ac vn o’ch bysedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd, Ac i chwithau y cyfreithwyr wae, canys llwythwch ddynion â llwythau anhawdd eu dwyn; a chwi eich hunain, ag un o’ch bysedd ni chyffyrddwch â’r llwythau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, “Gwae chwithau’r cyfreithwyr, am eich bod yn beichio dynion â beichiau annioddefol, ac ni chyffyrddwch eich hunain â’r beichiau ag un o’ch bysedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anodd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau ag un o'ch bysedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ie, a gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith!” meddai Iesu. “Dych chi'n llethu pobl gyda'ch rheolau crefyddol, a wnewch chi ddim codi bys bach i'w helpu nhw a gwneud pethau'n haws iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai ef, "Gwae chwithau athrawon y Gyfraith, oherwydd yr ydych yn beichio pobl beichiau anodd eu dwyn, beichiau nad yw un o'ch bysedd chwi byth yn cyffwrdd hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a ddywedodd, gwae hefyd chwi, Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys yr ydych chwi yn beichio y bobl â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwychwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau âg un o'ch bysedd.