Luke 11:49 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny y dywedei doethinep Duw, Anvonaf atyn Brophwyti, ac Apostolon, ac o hanynt y lladdant ’rei, ac ereill erlidiant,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn Doethineb Duw hefyd a ddywedodd, Danfonaf attynt brophwydi ac apostolion, A rhai o honynt a laddant ac a erlidiant hwy:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny y dywedodd Doethineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddwedodd Duw yn ei ddoethineb, ‘Bydda i'n anfon proffwydi a negeswyr atyn nhw. Byddan nhw'n lladd rhai ac yn erlid y lleill.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny hefyd y dywedodd Doethineb Duw, 'Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a byddant yn lladd ac yn erlid rhai ohonynt';
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn hefyd Doethineb Duw a ddywedodd, Mi a anfonaf atynt Broffwydi ac Apostolion, A rhai o honynt hwy a laddant ac a erlidiant.