Luke 11:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyt, ef a ddyuot wrthynt, Pwy o hanoch a vyð iddaw gar, ac a el attaw am haner nos, ac a ddywait wrthaw, Y car, Moes i mi yn echwyn dair torth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd a chanddo gyfaill, ac a aiff atto hanner nos, ac a ddywaid wrtho,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Pwy ohonoch fydd ganddo gyfaill, ac a â ato ganol nos, a dywedyd wrtho, ‘Gyfaill, rho’n fenthyg dair torth i mi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd hyn: “Cymerwch fod gynnoch chi ffrind, a'ch bod yn mynd ato am hanner nos ac yn dweud, ‘Wnei di fenthyg tair torth o fara i mi?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai wrthynt, "Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos ac yn dweud wrtho, 'Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch chwi fydd iddo gyfaill, ac a â ato haner nos, ac a ddywed wrtho, Gyfaill, dyro yn fenthyg i mi dair torth: