Luke 11:50 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y’n y bo i ’waet y Prophwyti, a ddinewyt o sailiat y byt, gael ei ’ovyn y gan y genedl aeth hon,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fel y ceisier gwaed yr holl brophwydi Y sy’n cael ei dywallt o seiliad y byd, Oddiwrth y genhedlaeth hon:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel yr ymofynned gan y genhedlaeth hon am waed yr holl broffwydi a dywalltwyd o seiliad y byd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y gofynner i'r genhedlaeth hon waed yr holl broffwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y genhedlaeth yma'n cael ei galw i gyfrif am ladd pob un o'r proffwydi ers i'r byd gael ei greu —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac felly gelwir y genhedlaeth hon i gyfrif am waed yr holl broffwydi, a dywalltwyd er seiliad y byd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Fel y gofyner gwaed yr holl Broffwydi a dywalltwyd, O seiliad y byd, oddiar law y Genedlaeth hon;