Luke 11:52 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae chvvy chwi es ponwyr‐y‐Ddeddyf: can ys dducesoch ymaith egoriat y gwybyddiaeth: nyd aethoch y mywn ychunain, a’r ei oedd yn dyuot y mywn, a ’oharðesoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae chwi y cyfreithwyr, canys dygasoch ymaith agoriad gwybodaeth; chwi eich hunain nid aethoch i mewn, a’r rhai oedd yn myned i mewn a rwystrasoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae chwi’r cyfreithwyr, am i chwi ddwyn allwedd gwybodaeth; nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn ceisio myned i mewn a ataliasoch.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae chwychwi, y cyfreithwyr! canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith! Dych chi wedi cuddio allwedd y drws sy'n arwain at ddeall yr ysgrifau sanctaidd oddi wrth y bobl. Felly dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, a dych chi'n rhwystro pobl eraill rhag mynd i mewn hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae chwi athrawon y Gyfraith, oherwydd ichwi gymryd ymaith allwedd gwybodaeth; nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd am fynd i mewn, eu rhwystro a wnaethoch."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae chwi! Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys chwi a ddygasoch ymaith allwedd gwybodaeth: chwychwi eich hunain nid aethoch i mewn; a chwi a waharddasoch i eraill fyned i mewn.