Luke 11:53 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef yn dywedyt y pethae hyn wrthyn, y dechreuawdd y Gwyr‐llen a’r Pharisaiait y ddyludaw ef yn ðrud, a’ ei ðenu y ymadrodd am llawer o bethae,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned allan o Hono oddiyno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid ddal gŵg Iddo yn ofnadwy,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo fyned ymaith oddi yno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn ddig aruthr wrtho, a’i dynnu i lefaru ar lawer pwnc,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid fod yn daer iawn arno, a'i annog i ymadrodd am lawer o bethau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddo adael y tŷ, dyma'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau gwrthwynebu Iesu'n ffyrnig. Roedden nhw'n ymosod arno gyda chwestiynau di-baid,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo fynd allan oddi yno dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid fagu dig tuag ato, a'i holi yn fanwl ynghylch llawer o bethau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ddyfod allan oddiyno, yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymosod yn angerddol arno ef, a'i groes‐holi ynghylch mwy a mwy o bethau: