Luke 11:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ef o dd ymywn atepai, ac a ddywedei, Na volesta ddim hanof: y mae ’r drws ynawr yn‐gayad, a’m plant y gyd a mi yn y gwely: ny ’allaf gwnnu a i’ rhoddy yty.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yntau oddi mewn a ettyb, I myfi na phar drafferth: yn awr y drws a gauwyd, ac fy mhlant, ynghyda mi, yn eu gwely y maent: ni allaf godi a rhoddi i ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yntau’n ateb tu mewn, a dywedyd, ‘Paid â’m poeni; erbyn hyn y mae’r drws wedi ei gloi, ac y mae fy mhlant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a rhoi i ti.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae'r drws yn gaead, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a'u rhoddi i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r ffrind sydd yn y tŷ yn ateb, ‘Gad lonydd i mi. Dw i wedi cloi'r drws ac mae'r plant yn y gwely gyda mi. Alla i ddim dy helpu di.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a phe bai yntau yn ateb o'r tu mewn, 'Paid 'm blino; y mae'r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti',
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: y mae y drws yn barod wedi ei gau; ac y mae fy mhlant bychain gyd â mi yn y gwely: nid wyf yn gallu codi drachefn a rhoddi i ti.