Luke 11:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedaf wrthych, cyd na s cwnnei ef a’ rroi iddaw, o bleit y vod ef yn gar iddo, eto yn sicr am ei daerdeb, e gyfodei, ac a roei iddaw gynniner a vyddei arno y h esiae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedaf wrthych, Er na rydd iddo, gan godi, am mai ei gyfaill yw, etto, o herwydd ei daerni, gan gyfodi y rhydd iddo gynnifer ag y mae arno eu heisiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedaf i chwi, hyd yn oed er na chyfyd a rhoddi iddo am ei fod yn gyfaill iddo, eto oherwydd ei daerineb fe gyfyd, a rhoi iddo gymaint ag a fo arno’i eisiau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wir i chi, er ei fod yn gwrthod codi i roi bara iddo am eu bod yn ffrindiau; am ei fod yn dal ati i ofyn bydd yn codi yn y diwedd, ac yn rhoi popeth mae e eisiau iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rwy'n dweud wrthych, hyd yn oed os gwrthyd ef godi a rhoi rhywbeth iddo o achos eu cyfeillgarwch, eto oherwydd ei daerni digywilydd fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo gymaint ag sydd arno ei eisiau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn dywedyd i chwi, Os hyd y nod na rodda efe iddo gan gyfodi drachefn, o herwydd ei fod ef yn gyfaill iddo, eto o herwydd ei daerni digywilydd, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag sydd arno eu heisieu.