Luke 12:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YN y cyfamser, yr ymdyrrawdd ynghyt lliaws aneirif o bopul, y’n yd ymsengynt ar y gylydd: ac y dechreuodd ef ddywedyt wrth ei ddiscipulon yn gyntaf, Ymochelwch rac surdoes y Pharisaiait, yr hwn yw hypocrisi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ymysg y pethau hyn, wedi ymgasglu ynghyd o fyrddiynau o’r dyrfa fel y sathrent y naill y llall, dechreuodd ddywedyd wrth Ei ddisgyblion, Yn gyntaf, ymogelwch rhag surdoes y Pharisheaid, yr hwn yw rhagrith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn y cyfamser, a’r bobl wedi ymgasglu yn eu miloedd nes sathru ar ei gilydd, dechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, “Ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, sef rhagrith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser roedd tyrfa yn ymgasglu — miloedd o bobl yn ymwthio a sathru ar draed ei gilydd. Dyma Iesu'n siarad â'i ddisgyblion yn gyntaf, ac meddai wrthyn nhw: “Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, sef y ffaith eu bod nhw mor ddauwynebog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y cyfamser yr oedd y dyrfa wedi ymgynnull yn ei miloedd, nes eu bod yn sathru ei gilydd dan draed. Dechreuodd ef ddweud wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, "Gochelwch rhag surdoes y Phariseaid, hynny yw, eu rhagrith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn y cyfamser, pan yr ymgasglodd y dyrfa yn ddegau o filoedd ynghyd, hyd oni sathrent eu gilydd, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y Dysgyblion yn gyntaf oll, Gwyliwch arnoch rhag lefain y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith.