Luke 12:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac a ddywait ’air yn erbyn Map y dyn, ei maddeuir iddaw: eithyr i hwn a gablo yr Yspryt Glan, ny ’s maddeuir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phob un a ddywaid air yn erbyn Mab y Dyn, maddeuir iddo; Ond i’r hwn a gablodd yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phawb a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond i’r hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bydd pawb sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu'r Ysbryd Glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond ni faddeuir i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Gln.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phob un a ddywedo air mewn perthynas i Fab y Dyn, fe a faddeuir iddo: ond i'r hwn a gablo mewn perthynas i'r Yspryd Glân, ni faddeuir.