Luke 12:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ich’ dugant ir Synagogae, ac at y llywyawdwyr a’r gwyr‐o‐ veddiant, na ovelwch pa vodd, nei pa beth a atepoch, nai pa beth a ddywetoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddygont chwi o flaen y sunagogau a’r llywiawdwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd nac â pha beth yr amddiffynoch eich hunain, na pha beth a ddywedoch,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan ddygont chwi gerbron y synagogau a’r llywodraethwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd yr amddiffynnwch eich hunain, neu beth a ddywedwch;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan y'ch dygant i'r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fyddwch ar brawf yn y synagogau, neu o flaen y llywodraethwyr a'r awdurdodau, peidiwch poeni am eich amddiffyniad, beth i'w ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddygant chwi gerbron y synagogau a'r ynadon a'r awdurdodau, peidiwch phryderu am ddull nac am gynnwys eich amddiffyniad, nac am eich ymadrodd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan y'ch dygant chwi i mewn o flaen y Synagogau, a'r Llywodraethau, a'r Awdurdodau, na fyddwch bryderus am ba fodd neu ba beth i amddiffyn eich hun, neu i ddywedyd;