Luke 12:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd paam ef a ddyuot wrthynt Edrychwch ac ymogelwch rac trachwant: can ys cyd bot i ðyn amlder o dda, er hyny nid yw i einioes yn sefyll o nerth ei dda.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymgedwch rhag pob cybydd-dod; canys nid yn ei orlawnder y mae i neb ei fywyd, oddiwrth ei feddiannau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Edrychwch a gwyliwch rhag pob trachwant, canys nid yn yr helaethrwydd sydd i neb y mae ei fywyd, nid o’r pethau a, fedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd‐dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd, “Gwyliwch eich hunain! Mae'r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy'n rhoi bywyd go iawn i chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd wrthynt, "Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch a gwyliwch rhag pob trachwant: canys nid yw bywyd neb yn gynwysedig yn helaethrwydd y meddianau sydd ganddo.