Luke 12:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ dywedaf wrth vy enait, Enait, mae yti dda lawer wedy ’r roi y gadw dros lawer o vlyðyneð: gorph y wys, bwyta, yf, ymddigrifha.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt lawer o dda wedi ei roi i gadw am flynyddoedd lawer; ymorphwys, bwytta, yf, ymhyfryda.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae gennyt lawer o dda wedi ei ystorio dros flynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna bydda i'n gallu eistedd yn ôl a dweud wrtho i'n hun, “Mae gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer. Dw i'n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed.”’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedaf wrthyf fy hun, "Ddyn, y mae gennyt str o lawer o bethau ar gyfer blynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen."'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt dda lawer wedi ei roi i gadw ar gyfer blynyddoedd lawer; gorphwys, bwyta, ŷf, mwynhâ dy hun.