Luke 12:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can nad oes dim toedic, a’r ny’s didoer: na chuðiedic a’r ny’s daw i wybodaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond nid oes dim wedi ei orchuddio, na ddatguddir; nac yn guddiedig, na wneir yn hysbys.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nis gwybyddir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes dim wedi ei guddio nas datguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond nid oes dim wedi ei orchuddio i fyny, a'r nis dad‐orchuddir, a dim dirgel, a'r nis gwybyddir.