Luke 12:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly am hwn a dresoro yddo ehun, ac ny d yw ’oludawc yn‐ d uw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly y mae ’r hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac heb fod yn oludog tuag at Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly’r neb a drysoro iddo’i hun, ac nid yw’n gyfoethog i Dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y mae'r hwn sydd yn trysori iddo'i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ie, fel yna bydd hi ar bobl sy'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain ond sy'n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly y bydd hi ar y rhai sy'n casglu trysor iddynt eu hunain a heb fod yn gyfoethog gerbron Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly yw yr hwn a drysora iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.