Luke 12:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot wrth ei ddiscipulon, Am hyny y dywedaf wrthych, Na phryderwch am eich einioes, beth a vwytaoch: nac am eich corph, beth a wiscoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Am hyn y dywedaf wrthych, na phryderwch am eich einioes, beth a fwyttaoch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch, nac am eich corff, beth a wisgwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion: “Felly, dyma dw i'n ddweud — peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w wisgo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai wrth ei ddisgyblion, "Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch phryderu am eich bywyd nac am eich corff, beth i'w fwyta na beth i'w wisgo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, O herwydd hyn meddaf i chwi, na fyddwch bryderus am y bywyd, beth a fwytâoch, nac am y corff, beth a wisgoch.